Dyfarnwyd £170,000 i’r prosiect oddi wrth Gronfa Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan CGGC.
Mae Clwb Golff y Trallwng yn rheoli 91 hectar o dir, ryw 3 milltir o dref y Trallwng. Y mae eisoes yn cefnogi amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, planhigion a ffyngau ond gan mai dim ond un rhan o dair o’r tir sy’n cael ei reoli’n rhagweithiol ar hyn o bryd ar gyfer golff, mae yna botensial enfawr i ardaloedd mawr o gynefinoedd gael eu rheoli er budd natur. Yn union gyfagos â’r clwb golff mae Y Golfa (25 hectar ychwanegol), sef ardal o dir sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth er budd iâr-fach-yr-haf y fritheg ymyl berl. Dyma un o’r naw safle yn unig sydd ar ôl yng Nghymru gyfan ar gyfer y rhywogaeth hon sydd o dan fygythiad, a hon yw’r boblogaeth bwysicaf, gyda phedwar safle arall gerllaw. Mae rhywogaethau eraill sydd o dan fygythiad wedi cael eu cofnodi ar y safle hefyd gan gynnwys y Bras Melyn, Corhedydd y Coed, Iâr-fach-yr-haf y fritheg ymyl berl (Boloria selene) a’r Ysgyfarnog Mawr (Lepus Europaeus).