Daith ddifyr ac addysgiadol o dirwedd wych ym mynyddoedd gogleddol Cambria, sy'n cynnwys man gwylio godidog Foel Fadian a dau lyn gwahanol iawn, sef Glaslyn a Bugeilyn.
Yn dilyn mae'r llwybr sain gellir dysgu am hanes naturiol a hanes dynol yr ardal, yn ogystal â hanes Prosiect Pumlumon a'r hyn mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn ei wneud ar hyn o bryd i newid arferion rheoli tir. Bydd y newidiadau hyn yn fuddiol i fywyd gwyllt yr ardal, ac yn cynyddu bioamrywiaeth, a thrwy hynny'n gwneud yr ardal yn fwy deniadol i bawb.
I fanteisio ar y daith cymaint â phosib, dylid lawrlwytho'r mae deg ffeil sain cyn cychwyn ar y daith. Hefyd gellir lawrlwytho map o'r llwybrau a chael cyfarwyddiadau manwl i'w hargraffu. Dylid hefyd darllen a dilyn y canllawiau iechyd a diogelwch sydd isod cyn cychwyn ar eich taith.

A walker enjoying a day out on Pumlumon © Montgomeryshire Wildlife Trust
Taith manylion
Hyd: 6.5 milltir/10.5 km; dylid caniatáu tair i bedair awr, heb gynnwys amser i orffwys.
Graddfa: Cymedrol: tua 825 troedfedd/275m o ddringo, rhywfaint dros dir mynydd agored heb ei farcio; erbyn hyn mae arwyddbyst (melyn) ar yr adran hon. Mae'r gweddill ar draciau neu lwybrau amlwg, gan gynnwys rhan o Lwybr Glyndŵr.
Flowering heather at Glaslyn Nature Reserve © MWT/Tammy Stretton
Pryd i fynd
Gellir cerdded y llwybr sain ar unrhyw adeg, ond yr amser gorau i'w gerdded yw mewn tywydd braf yn y Gwanwyn, Haf neu'r Hydref. Byddem yn argymell i chi edrych ar ragolygon y tywydd, yn enwedig os ydych yn ystyried mynd yn ystod y gaeaf. Mae Llwyfandir Pumlumon yn uchel, ac yn agored iawn, a gall y tywydd newid yn sydyn iawn. Nid yw'n bosib gweld yn bell iawn os oes cymylau isel neu niwl (felly hefyd y golygfeydd!) a pheth digon hawdd fyddai mynd ar goll oni bai eich bod yn gallu defynddio map a chwmpawd. Bydd angen cofio hefyd am oerfel gwynt a churlaw.

Pumlumon walkers at the Wynford Thomas Memorial © MWT
Sut i gyrraedd y man cychwyn
Mae'r llwybr sain yn ddechrau yn y Cofeb Wynford Vaughan-Thomas am SN836959.
O Fachynlleth: dilynwch y Ffordd Fynydd tua Penfforddlas a Llanidloes. Dilynwch y ffordd yma am ryw 8 milltir, gan ddringo'n serth ar y darn olaf. Fe welwch y gofeb ar y dde, ychydig ar ôl croesi grid gwartheg.
O Lanidloes: dilynwch y B4518 i gyfeiriad Penfforddlas a Llanbrynmair. Rhyw filltir a hanner ar ôl Penfforddlas, mae troad i'r chwith tua Dylife a Machynlleth. Hon yw'r Ffordd Fynydd. Dilynwch y ffordd hon am ryw 5 milltir nes gwelwch y gofeb ar eich chwith ar ôl mynd lawr y rhiw serth cyntaf.
Mae rhai lleoedd parcio ar ymyl y ffordd, felly cymerwch ofal wrth barcio os gwelwch yn dda.
There is limited roadside parking, so please park carefully.
Gallwch chi ffrydio'r ffeiliau sain isod. I'w lwytho i lawr, cliciwch ar y bar perthnasol a dewiswch 'Save audio as .. "
01 Cofeb Wynford Vaughan Thomas
02 Pwynt Trig Foel Fadian
03 Owain Glyndŵr
04 Gwarchodfa Natur Glaslyn
05 Llyn yn Glaslyn
06 Ffenestr i'r gorffennol
07 Y Ceunant
08 Y bwystfilod sy’n ffurfio'r tirwedd
09 Fferm Bugeilyn
10 Cau Ffosydd
Cafodd y prosiect hwn gyllid trwy Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig