Croeso nôl i fyd natur

Gregynog Hall with a field of buttercups in the foreground

Mae tiroedd 750 erw Gregynog yn Nhregynon ger y Drenewydd eisoes yn hafan o bwysigrwydd cenedlaethol i fywyd gwyllt Llun: © Daryl Owen

Croeso nôl i fyd natur

Diolch i bartneriaeth newydd a chyffrous, byddwn yn gweithio gyda Gregynog ar eu prosiect Croeso nôl i fyd natur i wella’r ystâd hanesyddol yn Sir Drefaldwyn ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.

Mae tir 750-erw Gregynog yn Nhregynon ger Y Drenewydd eisoes yn hafan o bwysigrwydd cenedlaethol i fywyd gwyllt. Mae mwyafrif yr ystâd wedi’i lleoli o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol - un o ardaloedd parcdir hanesyddol a phorfeydd coed pwysicaf Cymru. Yn ogystal, mae ei Goedwig Fawr, coetir hynafol llawn coed derw, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sy’n llawn bywyd gwyllt, a llawer ohono’n brin, gan gynnwys cennau, adar megis Gwybedogion Brith a Thelorion y Coed a nifer o rywogaethau o ystlumod. Ac mae’r milltiroedd o lwybrau gydag arwyddion sy’n troelli drwy’r coetir, y dolydd blodau gwyllt a’r Pwll Lilis sy’n ferw o weision y neidr lliwgar, yn rhai o’r cyfleoedd cyffrous i ymwelwyr allu eu mwynhau a chysylltu gyda’r bywyd gwyllt cyfoethog hwn.

“Byddwn yn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt presennol, yn hybu bioamrywiaeth ac yn gwella profiad yr ymwelwyr o ran thema natur – i sicrhau bod bywyd gwyllt yn ffynnu yma a’i fod yn le y gall pobl gysylltu â byd natur a dysgu amdano…”
Logo Nature Networks Fund 3 non-lottery Welsh Government

Mae prosiect Croeso nôl i fyd natur wedi’i ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, sef cronfa Llywodraeth Cymru a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect dwy flynedd o hyd yn golygu bod ein dau sefydliad yn cydweithio i adeiladu ar y sylfeini cryf yma, gan wella cynefinoedd bywyd gwyllt presennol, hybu bioamrywiaeth a gwella’r profiad i ymwelwyr o ran thema natur – i sicrhau bod bywyd gwyllt yn  ffynnu yma a’i fod yn le y gall pobl gysylltu â byd natur a dysgu amdano.

Misty woodland scene in autumn

Mae gan Gregynog goetir hynafol llawn bywyd gwyllt Photo: © Brad Carr

Er mwyn i hyn allu digwydd, byddwn yn mapio ac yn monitro cynefinoedd a rhywogaethau’r ystâd yn y lle cyntaf, gan ategu at y gwaith a wnaed mewn ardaloedd penodol o’r ystâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) – i ddarganfod mwy am y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yng Ngregynog. Fel rhan o hyn, byddwn yn arolygu adar ac ystlumod sy’n bridio, ffwng a phathewod. Bydd y data hwn yn darparu sylfaen ar gyfer gwybodaeth ddiddorol i helpu ymwelwyr i ddeall pa mor arbennig yw’r lle hwn o safbwynt bywyd gwyllt, a pham bod angen rheoli ein tiroedd gyda hynny mewn cof.

Pied flycatcher

Pied flycatcher by Mark Hamblin/2020VISION

Hybu bioamrywiaeth

Bydd gwaith adfer ar draws yr ystâd yn cael ei ddylunio i gynyddu bioamrywiaeth, gan gynnwys adfer y Pwll Lilis a phlannu blodau gwyllt ar hyd y rhodfeydd, yn ogystal â chefnogi gwaith adfer parhaus i’r ardd furiog. Yn ogystal, bydd gosod blychau nythu wedi’u llunio’n arbennig ar gyfer y Gwybedogion Brith ac adar mudol eraill yr haf yn helpu i gefnogi poblogaethau adar prin, a bydd plannu mwy o flodau gwyllt a choed yn hybu bywyd pryfed, sef sylfaen ecosystem iach.

“Mae Gregynog yn safle arbennig gydag ystod eang o wahanol gynefinoedd, gan gynnwys rhai sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae gennym ni gofnodion hanesyddol o fywyd gwyllt prin megis Ystlumod Pedol Lleiaf a Phathewod, ond bydd y prosiect yn ein galluogi i fapio’r safle i ddeall ei bwysigrwydd o safbwynt natur. Law yn llaw â hyn, bydd digwyddiadau’n annog pobl i ddod i Gregynog a dysgu am fywyd gwyllt drostynt eu hunain.”
Swyddog Cadwraeth, Ceri Jones
Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Gweithgareddau i’r teulu

Yn y cyfamser, bydd darpariaeth Gregynog ar gyfer ymwelwyr yn cael ei wella ymhellach, gydag ardal chwarae a phicnic newydd yn y coed, mwy o gyfleoedd ar gyfer cerdded, beicio a rhedeg drwy greu llwybrau newydd – megis ychwanegu llwybr i fyny’r Cwningar, lle mae’r golygfeydd yn ysblennydd – a gwella llwybrau presennol i’w gwneud yn fwy hygyrch.

Byddwn hefyd yn cynnal 13 digwyddiad ar thema natur yng Ngregynog – gan gynnwys teithiau cerdded i wylio ystlumod, adnabod ffwng, adeiladu den ac archwilio pyllau – cyfle perffaith i ymgysylltu teuluoedd gyda natur ac ysbrydoli pobl ifanc i warchod eu hamgylchedd naturiol.

Family of four walking through bluebell-filled woodland

Byddwn yn cynnal 13 digwyddiad ar thema natur yng Ngregynog a fydd yn berffaith ar gyfer ymgysylltu teuluoedd â byd natur Llun: © Puddleduck Photography

Mewn undod mae nerth

Gan gadw’r teulu wrth wraidd y prosiect hwn, byddwn yn sefydlu grŵp gwirfoddolwyr penodol i gynorthwyo gyda gwaith ymarferol i reoli cynefinoedd ac arolygu rhywogaethau ar yr ystâd. Byddwn hefyd yn cefnogi staff a gwirfoddolwyr Gregynog i ddatblygu eu sgiliau i barhau â’r gwaith monitro a rheoli at y dyfodol – un enghraifft yn unig o waddol y prosiect.

A oes gennych chi ddiddordeb gwirfoddoli yng Ngregynog fel rhan o’r prosiect hwn? E-bostiwch: ceri@montwt.co.uk