
Gwarchodfa Natur Llyn Coed y Dinas yn gynnar yn y gwanwyn © YNM

Cornchwiglod yn hedfan yng Ngwarchodfa Natur Llyn Coed y Dinas © Patrick Cheshire

Aderyn y Bwn yn yr eira a’r rhew yng Ngwarchodfa Natur Llyn Coed y Dinas © YNM
Llyn Coed y Dinas
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
mis Mawrth i fis Mehefin, mis Awst i fis HydrefAm dan y warchodfa
Mae’r safle hon wedi’i chreu o’r pwll gro a agorwyd i gael deunyddiau i adeiladu ffordd osgoi Y Trallwng. Mae Llyn Coed y Dinas yn hafan i bob math o fywyd gwyllt. Bydd rhai o’r rhywogaethau yn byw yn y warchodfa trwy gydol y flwyddyn, tra bod eraill dim ond yn ymweld ar adegau penodol y flwyddyn, naill ai i fridio a magu eu hepil, neu i gysgodi rhag tywydd garw y gaeaf. Bydd rhai hefyd yn defnyddio’r warchodfa fel gorffwysfan, gan daro heibio i orffwys a chael pryd o fwyd ar eu ffordd i rywle arall.
Dydych chi byth yn gwybod beth wnewch chi weld yn ystod eich ymweliad â Llyn Coed y Dinas, felly dewch mor aml ag y gallwch. Mae cyfnod mudo’r gwanwyn a’r hydref yn arbennig o gyffrous, gyda siawns dda iawn y bydd rhywbeth anarferol i’w weld. Dros rai gaeafau, mae Aderyn y Bwn ymddiriedus wedi bod yn nythu yn y cyrs yn syth o flaen y guddfan!
Dilynwch y warchodfa hon ar y cyfryngau cymdeithasol #LlynCoedyDinas