Cymunedau Glaswelltir

A close up of unimproved grassland in Montgomeryshire, hills in the background

Photo: © MWT/Lottie Glover

Cymunedau Glaswelltir

Un o’r cynefinoedd bywyd gwyllt pwysicaf ar y Ddaear, mae glaswelltir yn hanfodol ar gyfer natur, bioamrywiaeth a’r amgylchedd, ond mae dan fygythiad. Fel rhan o’n prosiect newydd, Cymunedau Glaswelltir, byddwn yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr lleol, mawr a bach, i’w helpu i wneud gwelliannau i’w glaswelltiroedd, ar gyfer natur, gwytnwch hinsawdd ac er budd busnesau fferm.

Ariennir Cymunedau Glaswelltir gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, sef cronfa gan Lywodraeth Cymru a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a weinyddir gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) ar ran Llywodraeth Cymru.

The Heritage Fund and Welsh Gov partner logo in black

Yn brosiect dwy flynedd, bydd yn parhau â’r thema o ardaloedd natur mwy, gwell, mwy cydgysylltiedig, er budd nid yn unig bywyd gwyllt, ond cymunedau hefyd. Profodd ei ragflaenydd, Green Connections - cydweithrediad ar draws Powys rhwng Ymddiriedolaethau Natur - y galw gan dirfeddianwyr, grwpiau ac unigolion am fwy o gefnogaeth i weithredu'n gadarnhaol dros fioamrywiaeth a'r hinsawdd. Bydd Cymunedau Glaswelltir yn canolbwyntio ar wella’r rhwydwaith glaswelltir sy’n weddill, cynefin sydd wedi dioddef colledion hanesyddol trychinebus, ac sy’n parhau dan fygythiad difrifol. Yr hyn sy’n allweddol i lwyddiant hyn yw gweithio gyda’r gymuned ffermio, gan wneud defnydd o bartneriaeth gyda Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur (NFFN).

A map showing the project area of the Grassland Communities project

Bydd y prosiect Cymunedau Glaswelltir yn canolbwyntio ar dir pori isel yng nghanol Sir Drefaldwyn

Gyda ffocws ar dir pori isel yng nghanol Sir Drefaldwyn, byddwn yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur i roi cyngor a chymorth i ffermwyr a thirfeddianwyr llai yn ardal y prosiect. Yn y cyfamser bydd digwyddiadau’n arddangos ffermio cyfeillgar i natur ar waith, yn rhannu gwybodaeth a sgiliau ac yn creu rhwydwaith cefnogi tirfeddianwyr.

Mae glaswelltiroedd gyda gwahanol rywogaethau o laswellt a phlanhigion blodeuol eraill yn hybu amrywiaeth o bryfed, sydd yn ei dro yn cynnal niferoedd uwch o adar a mamaliaid. Mae gan laswelltir amrywiol hefyd wreiddiau dyfnach sy'n ei wneud yn fwy gwydn pan ddaw i sychder ac felly'n gallu dal mwy o ddŵr a storio mwy o garbon! Mae’n llesol i dda byw sy’n bwydo arno, ac mae’r bywyd gwyllt a allai elwa yn cynnwys ffyngau cwyr prin, glöyn byw’r Fritheg Berlog, Ehedyddion a Chorhedyddion y Waun, i enwi dim ond rhai.

Bydd Cymunedau Glaswelltir yn parhau â’r thema o ardaloedd natur mwy, gwell, mwy cydgysylltiedig, er budd nid yn unig bywyd gwyllt, ond cymunedau hefyd...
Close-up of a waxcap fungi from the hygrocybe genus

Mae glaswelltir bioamrywiol iach ac amrywiol yn cynnal rhywogaethau gan gynnwys ffyngau capiau cwyr prin, sy’n brydferth yn ogystal â bod yn rhan hanfodol o ecosystem lewyrchus Llun: © Vaughn Matthews

Beth ydym am ei gyflawni?

 

  • Gwella ansawdd a rheoli glaswelltiroedd presennol sydd heb eu gwella ac wedi eu lled-wella, gan gynnwys Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol, yn ardal y prosiect.
  • Hybu cysylltedd glaswelltir rhwng y safleoedd hyn, trwy greu cynefinoedd a rheoli tir yn briodol.
  • Darparu cyngor, hyfforddiant ac arolygon rhad ac am ddim i’r gymuned leol a chreu cyfleoedd ar gyfer dysgu rhwng cymheiriaid ac arloesi mewn ffermio cynaliadwy sy’n gyfeillgar i natur.
  • Codi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad posibl y gall ecosystemau glaswelltir iach ei wneud i liniaru ac addasu i’r hinsawdd, ac atal colli glaswelltiroedd i ddatblygiad amhriodol, gan gynnwys coedwigo.
  • Cefnogi ac ysbrydoli pobl i greu mwy o ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt ac i gysylltu â’r hyn sydd yno’n barod, trwy lens cynefinoedd a rhywogaethau glaswelltir.
  • Gwella lles trwy ymgysylltu â natur.

Eisiau cymryd rhan?

 

Os ydych chi’n ffermwr, yn dyddynwr, yn cadw ceffylau neu ag erw neu ddau o laswelltir nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud ag ef, gallwch drefnu ymweliad cynghori tir AM DDIM.

Cysylltwch â'r Swyddog Cadwraeth Ceri Jones. E-bost: ceri@montwt.co.uk

People out enjoying nature copyright Ross Hoddinott/2020VISION

© Ross Hoddinott/2020VISION

DIGWYDDIADAU

Byddwn yn cynnal digwyddiadau fel rhan o brosiect Cymunedau Glaswelltir. Cadwch lygad ar ein tudalen 'Beth sy’ Mlaen' i ddarganfod mwy...

Cymrwch olwg ar Beth sy’ Mlaen