Gweledigaeth o Dirwedd Mynydd Waun Fawr
Mae YNM wedi derbyn arian er mwyn cynhyrchu gweledigaeth dirwedd ar gyfer ardal Mynydd Waun Fawr, a ddangosir ar y map isod. Mae'n ymddangos bod yr ardal hon yn fan sy'n gyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond mae hefyd yn ganolbwynt i gasgliad o brosiectau cynhyrchu egni arfaethedig, felly mae angen gweledigaeth strategol, gan gynnwys cynllun cyflawni ymarferol yn seiliedig ar y safle, a hynny ar fyrder. Er mwyn creu'r weledigaeth dirwedd hon, byddwn yn ymgymryd ag arolygon ac yn gweithio gyda pherchnogion tir, rheolwyr tir a phartïon eraill allai fod â diddordeb, er mwyn ceisio adnabod opsiynau a chyfleoedd priodol ar gyfer gwaith adfer ecolegol a gwella cysylltedd.
Yr hyn rydym eisoes yn ei wybod
Mae'r rhan anghysbell hon o sir Drefaldwyn yn parhau i fod ag ardaloedd helaeth o gynefinoedd sy'n cynnal ystod amrywiol o fywyd gwyllt. Ystyrir bod nifer o'r cynefinoedd sy'n hysbys o ardal y prosiect dan ddigon o fygythiad i warantu iddynt gael eu hamddiffyn gan y gyfraith. Mae Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn adnabod y canlynol fel cynefinoedd ucheldir a rhostir yng Nghymru y dylid eu blaenoriaethu er mwyn cynnal ac ehangu bioamrywiaeth:
- Rhostir yr Ucheldir
- Gorgors
- Sgydau dŵr ucheldirol, ffeniau a chorsydd
- Cynefinoedd creigiau mewndirol a mariandiroedd
Nid yn unig yw'r cynefinoedd hyn yn werthfawr oherwydd y bywyd gwyllt maent yn eu cynnal, ond maent hefyd yn cyflawni myrdd o wasanaethau ecosystem, yn fwyaf nodedig storio carbon yn yr eangderau o fawndir. Mae'r ardal hon hefyd yn ddalgylch lle ceir nifer o afonydd oddi mewn iddi, sy'n golygu bod gweithgaredd yr ymgymerir â hi o fewn yr ardal yn cael effaith lawer ehangach.
O'r data sydd eisoes gennym, rydym yn gwybod bod yr ardal hon yn cynnal amrywiaeth fawr o rywogaethau planhigion, anifeiliaid a ffwng, gyda nifer nid ansylweddol ohonynt mewn perygl o fod ar drengi.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Mae'r prosiect yn rhedeg hyd at fis Mawrth 2025. Byddwn yn:
- Cynnal arolwg o ardal y prosiect er mwyn adnabod mannau allweddol o ran bioamrywiaeth (cynefinoedd a rhywogaethau).
- Bydd yr arolygon hyn hefyd yn cael eu defnyddio i adnabod ardaloedd sy'n addas ar gyfer adferiad ecolegol, ac ardaloedd lle gall yr adferiad hwn sicrhau cysylltedd ecolegol unwaith eto.
- Byddwn yn gweithio gyda pherchnogion tir a rheolwyr tir i adnabod opsiynau a chyfleoedd y gellid eu cefnogi.
- Byddwn yn defnyddio'r cyfan o'r uchod er mwyn adnabod gweledigaeth dirwedd, gan roi cynllun cyflawni ymarferol yn seiliedig ar safle ar gyfer yr ardal brosiect gyfan.
Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Sut allwch chi helpu?
Mae ymgysylltu gyda'r gymuned leol yn allweddol i lwyddiant y prosiect hwn. P'un ai ydych chi'n breswylydd neu'n fusnes o fewn ardal y prosiect, neu os oes gennych chi wybodaeth am werth y fioamrywiaeth yno, hoffem glywed gennych. Cadwch lygad am ddigwyddiadau lleol, a chofiwch rannu gwybodaeth am y prosiect hwn yn eang.