MAE GWARCHODFA NATUR CORS DYFI A CHANOLFAN NATUR DYFI YN AWR AR AGOR AR GYFER 2024

Cywion Gweilch y Dyfi yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi © YNM


Cors Dyfi
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
AR AGOR O: 1af o Fawrth 2024, Mercher-Sul, 10yb-4yp. Yna, o'r 27ain o Fawrth tan fis Medi (tymor nythu gweilch y pysgod) saith diwrnod yr wythnos gan gynnwys gwyliau banc, 10yb-5yp (mynediad olaf 4:10).
Tymor hydref/gaeaf - cynnar ym mis Medi tan y penwythnos olaf cyn y Nadolig: 10yb-4yb (mynediad olaf 3:10) dydd Mercher tan ddydd Sul. Ar gau pob ddydd Llun a dydd Mawrth (ar gyfer gwaith rheoli'r warchodfa).
Amser gorau i ymweld
Mis Ebrill i fis AwstAm dan y warchodfa
Gwarchodfa natur fendigedig yw Cors Dyfi, ac un sy’n ferw o fywyd gwyllt. Mae’r safle wedi newid yn sylweddol dros y canrifoedd diwethaf: mae wedi bod yn forfa heli morydol, tir pori, planhigfa goniffer ac yna, yn fwyaf diweddar, gwarchodfa o wlyptir sy’n llawn bywyd gwyllt. Mae’r warchodfa’n cynnwys cymysgedd o gors, gwern, coetir gwlyb a phrysg, sy’n cynnal nifer fawr o anifeiliaid a phlanhigion. Mae’n gartref hefyd i’r Gweilch gogoneddus, a ddechreuodd bridio ar y warchodfa am y tro cyntaf yn 2011. Efallai y caiff y rhai lwcus ohonoch gip ar Ddyfrgi neu Bathew yn ogystal.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Weilch y Dyfi a’r warchodfa natur sy’n gartref iddynt, cliciwch yma
Fel arfer, bydd y Gweilch ar y warchodfa o fis Ebrill i fis Medi. Y gwanwyn a’r haf hefyd yw’r adeg gorau i weld madfallod, troellwyr mawr, ceiliogod rhedyn, telorion hesg a thelorion cyrs, gellesg a phicellwyr pedwar nod. Daw’r gaeaf â heidiau o adar bach i’r porthwyr, yn ogystal â gwyddau gwyran a bodaod tinwyn i’r warchodfa ehangach. Yn ystod y gaeaf hefyd, mae’n bosibl y cewch gip ar adar y bwn, sydd yn anodd eu gweld, yn y cyrs. Mae yna hefyd dyfrgwn a barcudiaid cochion yma yn gyson trwy gydol y flwyddyn.
Mis Ebrill 2021, cyflwynywd teulu o afancod i amgaefa ar y warchodfa; am fwy o wyboadeth cliciwch yma.
Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yng Nghors Dyfi yn cynnwys Arsyllfa 360 Dyfi, cuddfan adar, a Chanolfan Natur Dyfi gyda siop, caffi a thoiledau hygyrch. Mae gennym gyfleusterau addysgiadol ac rydym yn croesawu archebion grŵp. Mae croeso i gŵn yn y maes parcio a’r ardal eistedd o flaen y ganolfan ymwelwyr ond ni chaniateir cŵn, ac eithrio cŵn cymorth, yn yr adeilad nac ar y warchodfa. Darperir powlenni dŵr.
Dilynwch y warchodfa hon ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CorsDyfi