Noethdagellog
Enw gwyddonol: Nudibranchia
Mae noethdagellogion, sy’n cael eu hadnabod hefyd fel gwlithod môr, yn debyg iawn i’w perthnasau ar y tir a welwch chi yn eich gardd efallai. Ond, yn wahanol i wlithen yr ardd, mae’r noethdagellog yn gallu cynnwys celloedd brathu ei ysglyfaeth yn ei gorff ei hun – i’w amddiffyn rhag ysglyfaethwyr!
Gwybodaeth am rywogaethau
Ystadegau
Hyd: Mae’r rhywogaethau’n amrywio o ran maint o ychydig filimetrau i sawl centimetr o hyd. 20 cm yw’r rhywogaeth fwyaf sydd wedi’i chofnodi ym Mhrydain.Statws cadwraethol
Cyffredin