Ci pigog
Enw gwyddonol: Squalus acanthias
Mae'r siarc main yma’n cael ei enw o'r pigau o flaen ei asgell ddorsal. Gall ddefnyddio'r pigau yma i amddiffyn ei hun drwy gyrlio mewn bwa a tharo ysglyfaethwr.
Gwybodaeth am rywogaethau
Ystadegau
Hyd: Hyd at 1.6 mPwysau: Hyd at 9.1 kg
Oes Ar Gyfartaledd: Gall fyw am hyd at 75 mlynedd
Statws cadwraethol
Mae'r ci pigog wedi'i restru fel rhywogaeth Agored i Niwed ar Restr Goch yr IUCN ac mae'n Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.
Pryd i'w gweld
Yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.Ynghylch
Mae’n cael ei alw hefyd yn forgi pigog, ac mae'r ci pigog yn ysglyfaethwr sy'n bwydo ar bysgod esgyrnog, ac weithiau siarcod llai hyd yn oed! Mae'n rhywogaeth fudol sy'n treulio misoedd y gaeaf mewn dŵr dwfn, a misoedd yr haf mewn dyfroedd arfordirol cynnes.Maent yn teithio mewn grwpiau yn aml, sy'n eu gwneud yn darged haws i bysgodfeydd. Mae'n anodd i'r siarcod hyn adfer ar ôl gorbysgota, oherwydd eu bod yn araf iawn yn atgenhedlu, yn cael 1 torllwyth o rai bach bob 2 flynedd fel rheol.