Ystlum lleiaf

Common pipistrelle

©Tom Marshall

Ystlum lleiaf

Enw gwyddonol: Pipistrellus pipistrellus
Mae’r ystlum lleiaf cyffredin mor fach fel ei fod yn gallu ffitio mewn bocs matsys! Er gwaethaf ei faint, mae’n gallu bwyta 3,000 o bryfed bob nos yn rhwydd; chwiliwch amdano’n gwibio o amgylch yr ardd neu bostyn golau wrth iddo fynd ar ôl ei ysglyfaeth.

Gwybodaeth am rywogaethau

Ystadegau

Hyd: 3.5-4.5 cm
Lled yr adenydd: 20-23 cm
Pwysau: 3-8 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 4-5 mlynedd

Statws cadwraethol

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Dan Warchodaeth Ewropeaidd o dan Atodiad IV Cyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop.

Pryd i'w gweld

Ebrill – Hydref

Ynghylch

Yr ystlum lleiaf yw ein hystlum lleiaf a mwyaf cyffredin. Mae holl ystlumod y DU yn rhai nosol – gan ffafrio dod allan yn ystod y nos yn unig. Maen nhw’n bwydo ar wybed mân, gwyfynod a phryfed eraill sy’n hedfan y maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw yn y tywyllwch gan ddefnyddio ecoleoliad. Does dim rhaid i ystlumod lleiaf fynd ymhell i chwilio am fwyd, yng nghefn gwlad neu yn y ddinas! Maen nhw’n clwydo mewn tyllau mewn coed, bocsys ystlumod ac yng ngofod y to mewn tai hyd yn oed, mewn poblogaethau bychain yn aml. Yn ystod yr haf, mae’r benywod yn ffurfio poblogaethau mamolaeth ac yn cael dim ond un ystlum bach yr un. Cadwch lygad am ystlumod lleiaf yn gwibio o’ch cwmpas yn hela am bryfed mewn gerddi neu o amgylch golau stryd ar ôl iddi fachlud. Maen nhw’n gaeafgysgu, rhwng mis Tachwedd a mis Ebrill fel rheol, ond efallai y byddant yn dod allan i fwydo ar ddyddiau cynnes.

Sut i'w hadnabod

Mae gan yr ystlum lleiaf cyffredin ffwr tywyll, brown euraidd, mae oddi tano ychydig yn oleuach ac mae ganddo fwgwd tywyll o amgylch ei wyneb. Mae’n hedfan yn gyflym iawn gyda llawer o droelli a throi. Mae’r ystlum lleiaf soprano yn debyg o ran ymddangosiad, felly mae’n gallu bod yn anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y ddau.

Dosbarthiad

Eang, ond yn absennol o Ynysoedd Shetland a rhannau o Ynysoedd Erch.

Roeddech chi yn gwybod?

Darganfuwyd yn ddiweddar bod o leiaf ddwy rywogaeth o’r ystlum lleiaf – cyffredin a soprano – gyda’r ddwy rywogaeth wedi’u grwpio yn wreiddiol fel Pipistrellus pipistrellus. Mae posib gwahaniaethu rhyngddyn nhw oddi wrth amledd gwahanol eu cri ecoleoliad.

Sut y gall bobl helpu

Whether you live in town or country, you can help to look after garden wildlife by providing food, water and shelter. To find out more about encouraging wildlife into your garden, visit our Wild About Gardens website: a joint initiative with the RHS, there's plenty of facts and tips to get you started, at www.wildaboutgardens.org.uk. To buy bird and animal food, feeders and homes, such as bat boxes, visit the Vine House Farm website - an award-winning wildlife-friendly farm which gives 5% of all its takings to The Wildlife Trusts.