Ystlum hirglust
Enw gwyddonol: Plecotus auritus
Mae’r ystlum hirglust yn driw i’w enw yn sicr: mae ei glustiau bron mor hir â’i gorff! Cadwch lygad amdano’n bwydo ar hyd gwrychoedd, mewn gerddi ac mewn coetiroedd.
Gwybodaeth am rywogaethau
Ystadegau
Hyd: 3.7-5.2 cmLled yr adenydd: 20-30 cm
Pwysau: 6-12 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 4-5 blynedd
Statws cadwraethol
Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Wedi’i restru fel Rhywogaeth Dan Warchodaeth Ewropeaidd o dan Atodiad IV Cyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop.