Llwynog coch

Red fox cub

©Jon Hawkins

Red fox

©Jon Hawkins

Llwynog coch

Enw gwyddonol: Vulpes vulpes
Yn enwog am fod yn greaduriaid cyfrwys a llechwraidd, mae’r cŵn oren i goch yma â’u cynffonnau blewog i’w gweld mewn trefi ac yng nghefn gwlad. Maen nhw’n dod allan yn ystod y nos gan fwyaf ond i’w gweld yn ystod y dydd hefyd os ydych chi’n lwcus!

Gwybodaeth am rywogaethau

Ystadegau

Hyd: 62-72 cm
Cynffon: 40 cm
Pwysau: 5-7 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 2-3 blynedd

Statws cadwraethol

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Y llwynog coch yw’r unig aelod gwyllt o deulu’r cŵn. Nid yw’n fwytwr ffyslyd iawn a bydd yn fwy na pharod i fwyta mamaliaid bach, adar, brogaod, pryfed genwair a hefyd aeron a ffrwythau! Bydd llwynogod sy’n byw mewn trefi a dinasoedd yn chwilio mewn biniau am sbarion bwyd hyd yn oed. Mae llwynog gwryw, sy’n cael ei alw yn gi, yn gwneud sŵn cyfarth, tra mae’r benywod, sef y llwynogesau, yn gwneud sŵn sgrechian iasol.

Sut i'w hadnabod

Yn gi maint canolig, mae’r llwynog coch yn oren i goch ei liw ar ran uchaf ei gorff, ac yn wyn oddi tanodd gyda blaenau’r clustiau yn ddu, traed brown tywyll a blaen gwyn i’r gynffon oren drwchus.

Dosbarthiad

Eang, ond yn absennol o Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili, Ynysoedd yr Alban ac Ynys Manaw.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae llwynogod coch yn byw mewn system o dyllau o’r enw daear. Maen nhw’n marcio eu ffiniau tiriogaethol gydag arogl iwrin, ac yn creu arogl cryf iawn, sy’n hawdd ei adnabod. Hefyd mae ganddyn nhw chwarennau arogl ar eu traed i farcio’r llwybrau maen nhw’n eu defnyddio’n rheolaidd, fel eu bod yn gallu dod o hyd iddyn nhw’n rhwydd yn ystod y nos.