Bele

Pine marten

©Mark Hamblin/2020VISION

Bele

Enw gwyddonol: Martes martes
Wedi'i gyfyngu'n bennaf i ogledd y DU, mae’r bele prin yn nosol ac yn anodd iawn ei weld. Fodd bynnag, gellir ei hudo i ymweld â bwrdd adar llawn pysgnau.

Gwybodaeth am rywogaethau

Ystadegau

Length: 46-54cm
Tail: 18-27cm
Weight: 0.9-2.2kg
Average lifespan: up to 8 years

Statws cadwraethol

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Mae’r bele yn aelod swil o deulu’r carlymoliaid. Gan amlaf mae’r bele i’w ganfod yng ngogledd y DU, yn enwedig yn yr Alban. Mae'n ffafrio cynefinoedd coetir, gan ddringo'n dda iawn a byw mewn tyllau mewn coed, hen nythod gwiwerod neu hen nythod adar hyd yn oed. Mae'n bwydo ar gnofilod bach, adar, wyau, pryfed a ffrwythau, a gellir ei annog i ymweld â byrddau adar hyd yn oed os ydynt yn llawn pysgnau a resins. Yn ystod tymor paru'r haf, maen nhw'n gwneud sŵn main a threiddgar tebyg i gath wrth alw. Y gwanwyn canlynol, bydd y fenyw yn cael torllwyth o rhwng un a phump o rai bach, sy'n annibynnol erbyn yr hydref.

Sut i'w hadnabod

Yn lliw brown gwinau yn bennaf, mae gan y bele 'fib' melyn golau nodweddiadol ar ei ên a'i wddw. Mae gan bob bele fib siâp unigryw, sy'n galluogi i unigolion gael eu hadnabod oddi wrth y patrwm. Mae gan y bele gynffon hir, flewog hefyd.

Dosbarthiad

I’w ganfod yn yr Alban yn bennaf, yn enwedig yn yr Ucheldiroedd, ac Iwerddon. Mae’r poblogaethau yng ngogledd Lloegr a Gogledd Cymru ar wasgar ac yn fach. Maent wedi cael eu hailgyflwyno'n llwyddiannus i’r Forest of Dean hefyd.

Roeddech chi yn gwybod?

Llus, aeron criafol a mwyar duon yw’r rhan helaeth o ddeiet y bele yn ystod yr haf, ac yn aml mae eu tail yn troi'n las neu'n goch ei liw. Mae’r bele yn gadael ei dail ar lwybrau’r goedwig yn gyson, neu mewn llecynnau amlwg fel ar feini mawr, i nodi ei diriogaeth. Pan mae’n ffres, mae'n bosibl y bydd y tail yn edrych yn llysnafeddog oherwydd bod mwcws yn ei rwymo at ei gilydd. Gall gynnwys ffwr, plu, esgyrn neu hadau.