Morwyn dywyll
Enw gwyddonol: Calopteryx virgo
Mae’r forwyn dywyll yn fursen hardd iawn! Mae’n cael ei chamgymryd yn aml am was y neidr ond mae’r rhywogaeth enfawr yma ym myd y mursennod yn anodd ei methu gyda’i lliwiau gwyrdd a glas metelaidd.
Gwybodaeth am rywogaethau
Ystadegau
Hyd: 4.5 cmPryd i'w gweld
Mai - AwstYnghylch
Efallai bod y forwyn dywyll yn edrych yn debyg i was y neidr, ond mursen yw hi. Mae’r gwrywod yn las metelaidd a’r benywod yn wyrdd. Maen nhw’n byw ar afonydd bychain, sy’n llifo’n gyflym, yng ngorllewin y DU. Mae posib eu gweld yn gwibio ac yn symud uwch ben wrth i’r gwryw geisio denu benyw gyda’i ddawnsio trawiadol!Sut i'w hadnabod
Mae gan wryw y forwyn dywyll adenydd tywyll a chorff gwyrddlas metelaidd. Mae’r forwyn dywyll yn debyg iawn i’r forwyn wych, ond mae gan wrywod y rhywogaeth olaf farciau tywyll nodweddiadol yng nghanol eu hadenydd.In our area
Beautiful Demoiselle is widespread in Montgomeryshire, in all but the mountainous areas.