Copyn heglog
Enw gwyddonol: Tipulidae
Yn gwibio o gwmpas y tŷ yn yr haf, mae'r copyn heglog, brown yn gyfarwydd i lawer ohonom. Mae’n ffynhonnell fwyd werthfawr i lawer o adar.
Gwybodaeth am rywogaethau
Ystadegau
Body length: 1.6cmLeg length: 5cm
Statws cadwraethol
Common.
Pryd i'w gweld
Mehefin i MediYnghylch
Math mawr o bryf teiliwr ydi’r copyn heglog, ac mae 94 o rywogaethau yn y DU. Mae’n gyfarwydd i ni yn ei ffurf fel oedolyn fel y pryf heglog sy’n gwibio o gwmpas ein cartrefi yn yr haf. Fel larfa, mae'n lindys llwyd (sy’n cael ei alw hefyd yn 'siaced ledr') sy'n byw o dan y ddaear, gan fwydo ar goesynnau a gwreiddiau planhigion. Mae'r arfer yma’n ei wneud yn rhywogaeth amhoblogaidd gyda garddwyr oherwydd gall adael darnau noeth o lawnt, a gall hefyd ddod yn bla amaethyddol. Mae'r oedolion ar yr adain tua diwedd yr haf ac yn gyffredin mewn gerddi a chaeau, gan ddod dan do yn aml. Pur anaml mae’n bwydo ar yr adeg yma, gan ganolbwyntio ar baru a dodwy ei wyau yn y glaswellt.Dydi’r copyn heglog ddim yn wenwynig, dim ond myth ydi hynny! Dydi o ddim yn gallu brathu, ond mae'n debygol mai'r rheswm dros y si ei fod yn wenwynig yw am ei fod yn cael ei gamgymryd am rai rhywogaethau o bryfed cop.