Chwilen chwyrligwgan

Whirligig Beetle

Whirligig Beetle ©Amy Lewis

Chwilen chwyrligwgan

Ydych chi wedi meddwl erioed beth yw’r smotiau bach du sy’n troelli ar wyneb y dŵr mewn pwll? Wel chwilod chwyrligwgan! Maen nhw i’w gweld yn aml yn saethu ar draws wyneb y dŵr yn hela eu pryd bwyd nesaf.

Enw gwyddonol

Gyrinus substriatus

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Gwybodaeth am rywogaethau

Ystadegau

Hyd: 5-7mm
Cyffredin

Ynghylch

Efallai eich bod chi wedi gweld y chwilen ddu fechan yma’n chwyrlïo ar wyneb y dŵr mewn pwll neu afon araf. Mae ei choesau ôl yn fyr a fflat ac felly’n gweithredu fel rhwyf berffaith ar gyfer saethu ar draws wyneb y

Sut i'w hadnabod

Mae’r chwilen chwyrligwgan yn ddu sgleiniog gyda choesau oren ac mae’n siâp hirgrwn. Mae ei choesau duon yn fflat fel rhwyfau ac mae ei hymddygiad troelli’n nodedig a hawdd ei adnabod.

Dosbarthiad

Eang

Roeddech chi yn gwybod?

Mae gan chwilod chwyrligwgan ddau bâr o lygaid cyfansawdd: mae un pâr yn edrych i fyny dros wyneb y dŵr ac mae’r llall yn edrych i lawr, o dan y dŵr.