Britheg Berlog
Enw gwyddonol: Boloria euphrosyne
Mae'r Britheg Berlog yn löyn byw oren a du deniadol ac i'w gweld ar lwybrau coetiroedd a llennyrch. Mae wedi ei enwi ar ôl y rhes o 'berlau' ar waelod yr adenydd.
Gwybodaeth am rywogaethau
Ystadegau
Lled adenydd: 3.8-4.7cmStatws cadwraethol
Wedi eu gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth â blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.
Pryd i'w gweld
Ebrill i AwstYnghylch
Mae'r Britheg Berlog yn löyn byw oren a du trawiadol, yn aml i'w gweld yn hedfan yn agos i'r llawr ar hyd llwybrau coetiroedd neu yn bwydo ar flodau'r gwanwyn fel y Fioled gyffredin. Maent hefyd yn cael eu gweld mewn cynefinoedd â chyfuniad o wair, rhedyn a phrysgoed. Hwn yw'r brith cyntaf i ymddangos ym mis Ebrill a gallant hyd yn oed ymddangos am yr eildro os yw'r tywydd yn dda. Mae'r fenyw yn dodwy un wy mewn rhedyn neu ddail yn agos i fioledau, sef bwyd y lindys.Sut i'w hadnabod
Mae'r Britheg Berlog yn löyn byw oren gyda marciau du ar ei adenydd. Mae marciau du ac arian ar waelod ei adenydd, ynghyd â rhes o 'berlau' ar hyd ymyl yr adenydd. Mae'n debyg iawn i'r Britheg Berlog Fach o ran maint ac edrychiad. Maent fwyaf hawdd eu hadnabod o waelod eu hadenydd - mae gan bob un rhes o saith perl, ond mae'r Britheg Berlog yn arddangos dau berl ychwanegol amlwg, tra bod gan y Britheg Berlog Fach mosaig o farciau gwyn, oren a brown.In our area
Sir Drefaldwyn yw cartref y boblogaeth fwyaf o'r glöyn byw prin hwn yng Nghymru gyfan. Ers dros 20 mlynedd, mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn wedi bod yn gweithio i ddiogelu dyfodol y rhywogaeth hon. Am ragor o wybodaeth ac i wylio ein ffilm sydd wedi ei hadrodd gan Iolo Williams, cliciwch yma.