Crëyr glas

A grey heron standing on the stony margin of a river

Grey heron © Neil Aldridge

Crëyr glas

Enw gwyddonol: Ardea cinerea
Chwiliwch am yr adar tal, gydag edrychiad cynhanes yma, yn sefyll yn dal fel delwau ar lan pyllau a llynnoedd, yn meddwl am eu pryd bwyd nesaf.

Gwybodaeth am rywogaethau

Ystadegau

Hyd: 94 cm
Lled yr adenydd: 1.8 m
Pwysau: 1.5 kg
Oes ar gyfartaledd: 5 mlynedd

Statws cadwraethol

Cyffredin. Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Gwyrdd o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Mae’r crëyr glas i’w weld yn aml yn sefyll yn llonydd fel delw ar ei goesau hir a thenau mewn dŵr bas mewn pyllau a llynnoedd, yn aros yn amyneddgar i’w bryd bwyd nesaf nofio heibio. Mae’r adar tal yma’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar eu pen eu hunain yn bwydo yn bennaf ar bysgod, ond gall ambell dwrch daear blasus fod at eu dant weithiau! Pan mae’n teimlo’n ddiog iawn, bydd y crëyr glas yn ymweld â gerddi a phyllau am fyrbryd cyflym a hawdd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am yr adar anhygoel yma wrth iddyn nhw hedfan; gyda’u hadenydd sy’n ysgwyd yn araf a’u coesau hir yn ymestyn allan y tu ôl iddyn nhw, does dim posib eu methu!

Sut i'w hadnabod

Mae’n hawdd adnabod y crëyr glas – aderyn cefn llwyd gyda choesau hir, gwddw hir, gwyn, pig melyn llachar a streipen ddu ar y llygaid sy’n parhau fel plu hir, llipa i lawr y gwddw. Mae’n hedfan gyda’i goesau hir yn ymestyn allan, ond ei wddw wedi’i dynnu i mewn.

Dosbarthiad

I’w weld mewn trefi a chefn gwlad, ar gamlesi, pyllau, llynnoedd ac afonydd ledled y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae crehyrod glas yn nythu mewn poblogaeth o’r enw ‘crehyrfa’, yn rhan uchaf y coed fel rheol. Yma, maen nhw’n creu nythod mawr diolwg allan o frigau ac yn dodwy 3 i 4 ŵy. Bydd y cywion yn gadael y nyth ar ôl ryw fis a hanner.

Sut y gall bobl helpu

The Wildlife Trusts manage many wetland nature reserves for the benefit of the wildlife they support. You can help by supporting your local Trust and becoming a member; you'll find out about exciting wildlife news, events on your doorstep and volunteering opportunities, and will be helping local wildlife along the way.