Dros 20 mlynedd, mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn (YNM) wedi bod yn gweithio i ddiogelu ac ehangu’r boblogaeth o’r glöyn byw Brith Perlog sy’n weddill ym Maldwyn. Gyda thywydd gwael ac ansawdd y cynefin yn gostwng yn y blynyddoedd diweddar, roedd y brith perlog druan yn dioddef; roedd y boblogaeth yn mynd yn beryglus o isel.
Serch hyn, diolch i haelioni’r rheini a gyfrannodd at yr apêl (#PBFANewHope) gaeaf diwethaf, llwyddodd YNM i weithio ar dros 6 hectar o gynefin, i wella ei addasrwydd ar gyfer y glöyn byw. Pan gyrhaeddodd y glöyn byw, dilynwyd hynny gan wanwyn cynnes a sych; tywydd perffaith i’r pryfyn bregus i wasgaru ei adenydd; atgenhedlu a dodwy ei wyau. Roedd niferoedd y gloÿnnod byw llawn dwf wedi cynyddu ar y mwyafrif o safleoedd; ar ôl pum mlynedd olynol o ostyngiad, roedd hynny’n rhyddhad mawr!