
The Montgomery Canal runs through Montgomeryshire countryside, as well as towns and villages such as Welshpool, Berriew and Abermule © Flying Film Lab
Go on a Canal Safari
Our free, bilingual app, Canal Safari, is the perfect tool to discover the wildlife
of the Montgomery Canal in Wales

About the app
Ar ôl lawrlwytho i ffôn clyfar, mae Saffari’r Gamlas yn defnyddio signal GPS i blotio’r defnyddiwr ar ‘fap’ darluniadol o’r rhan o’r gamlas sydd yng Nghymru, o Llanymynech i’r Drenewydd. Wrth i chi gerdded ar hyd y llwybr tynnu, mae eich lleoliad yn newid yn unol â hynny. Mae’r ap yn eich hysbysu am bwyntiau gerllaw ar thema natur ynghyd â ffeithiau diddorol iawn a ffotograffiaeth wych am brofiad rhyngweithiol llawn hwyl.

Just scan this QR code with your phone camera to download the app - or click the link at the top of this page

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography
Kingfishers are one of many wildlife species Canal Safari will help you learn more about
Cafodd yr ap ei gynllunio i alluogi pobl i sylwi ar y bywyd gwyllt sydd i’w ganfod yma, ei ddynodi a’i gofnodi ac i roi ffeithiau sydyn a gwybodaeth fanylach am dros 60 o’r planhigion ac anifeiliaid sydd fwyaf cysylltiol â’r gamlas. Mae hefyd yn cyfeirio defnyddwyr at naw gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a leolir oddi ar y llwybr tynnu gerllaw. Ceir cwisiau sy’n berffaith i blant a theuluoedd i brofi eu gwybodaeth newydd, tra bo pwyntiau mynediad sy’n cysylltu â mapiau Google yn hwyluso trefnu tripiau i wahanol fannau ar y gamlas.
Bydd y rhai sy’n caru ffotograffiaeth yn gallu rhannu lluniau o fywyd gwyllt y gamlas ar Facebook ac Instagram, ac er mwyn cynnwys pobl eraill yn yr antur, byddwch chi’n gallu gwahodd eich ffrindiau i ymuno â chi ar Saffari’r Gamlas. Hefyd, gallwch adio’r milltiroedd o bob ymweliad a chadw cofnod o beth rydych wedi ei weld i ddatblygu o fod yn Sgowt i fod yn Anturiaethwr.

The free app works on iPhones and Androids, and is a brilliant tool that will help you learn more about the canal and its wildlife
A phe na bai hynny’n ddigon, mae gan yr ap swyddogaeth gadwraeth gref yn greiddiol iddo. Mae Camlas Trefaldwyn ym Mhowys ymhlith y llefydd gorau yn y byd i weld planhigyn dyfrol prin o’r enw Llyriad-y-dŵr-arnofiol. Mae glas y dorlan i’w gweld yn aml yma ac mae’n gadarnle i’r dyfrgi, rhywogaeth sydd a’i niferoedd yn gostwng yn frawychus ar hyn o bryd. Gall unrhyw un sy’n defnyddio’r ap gofnodi beth mae’n ei weld a bydd y cofnodion gwerthfawr hyn yn helpu i adeiladu’r data pwysig hwn ledled y wlad a’r DU.