Coed Pendugwm

Bluebells at Coed Pendugwm copyright Tamasine Stretton

Coed Pendugwm with carpets of bluebells in spring © Tamasine Stretton

Coed Pendugwm

Mae’n ddrwg gennym ddatgan bod maes parcio Coed Pendugwm ar gau ar hyn o bryd. Mae llaid trwchus y gall ceir fynd yn sownd ynddo ar y ffordd. Rydym yn gweithio i ddatrys y broblem, ond yn y cyfamser, mae’n bosibl i ymweld â’r warchodfa ar droed. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

image/svg+xml
92 o ffyngau/cenau ()
image/svg+xml
320 o blanhigion ()
image/svg+xml
803 o bryfaid ()
image/svg+xml
90 o adar a mamaliaid ()
Coetir hynafol a gwyllt

Lleoliad

Pontrobert
Y Trallwng
Powys
SY22 5JF

OS Map Reference

SJ103143
A static map of Coed Pendugwm

Gwybod cyn i chi fynd

Maint
3 hectares
image/svg+xmlz

Pris mynediad

Dim
image/svg+xmlP

Manylion parcio

Mae’r maes parcio ar gau ar hyn o bryd. Mae llaid trwchus yn y maes parcio sy’n gwneud hi’n debyg iawn y bydd ceir yn mynd yn sownd, Rydym wedi cau’r maes parcio nes inni ddatrys y broblem. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.
image/svg+xml

Anifeiliaid pori

Dim
image/svg+xml

Llwybrau cerdded

Mae’r llwybr wedi’i nodi. Mae’n anwastad ac yn serth mewn mannau, a hefyd yn croesi’r nant dwywaith (pan fo’r nant yn llifeirio, mae’n bosibl na ellir mo’i groesi).

image/svg+xml

Mynediad

Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth am fanylion hygyrchedd.

Cŵn

image/svg+xmlAr dennyn

Pryd i ymweld

Amseroedd agor

Mae’r warchodfa ar agor bob amser ond mae’r maes parcio ar gau ar hyn o bryd.

Amser gorau i ymweld

mis Mawrth i fis Mehefin

Am dan y warchodfa

Mae coed derw digoes mawreddog wedi tyfu yn y gornel dawel hon o Gymru ers dros 400 o flynyddoedd gan ddarparu gorchudd deiliog ar gyfer planhigion ac anifeiliaid a chreu 'coedwig wyllt ' – y math o goetir a fu’n gorchuddio rhannau helaeth o'r wlad ar un adeg. Er ei bod yn ddim ond 3.2 o hectarau, mae'r warchodfa yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) Coed Pendugwm, sydd wedi'i dynodi oherwydd y coed, y planhigion a'r anifeiliaid arbennig sy'n byw yma, gan gynnwys y pathew.

Nid oes dim byd gwell na choetir llydanddail yn y gwanwyn, yn llawn blodau'r coetir lliwgar a sŵn yr adar yn canu yn llenwi'r awyr. Mae Coed Pendugwm yn lle gwych i wylio Gwybedogion Brith yn prysur fagu eu cywion uwchben carped o Glychau'r Gog.

 

Dilynwch y warchodfa ar y cyfryngau cymdeithasol #CoedPendugwm

Cysylltwch â ni

Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn
Cyswllt ffôn: 01938 555654
Cyswllt e-bost: info@montwt.co.uk