
Her natur ganol gaeaf
12 Diwrnod Gwyllt yw ein her natur Nadoligaidd ni, sy’n eich annog chi i wneud un peth gwyllt y dydd rhwng 25ain Rhagfyr a 5ed Ionawr bob blwyddyn. Yn ystod y dyddiau rhyfedd hynny rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae bywyd gwyllt y gaeaf yn aros i gael ei archwilio! Gallai eich gweithredoedd gwyllt chi fod yn bethau bach i helpu byd natur – fel ailgylchu eich coeden Nadolig neu fwydo’r adar – neu’n ffyrdd o gysylltu â byd natur, fel mynd i gerdded ar ôl eich cinio Nadolig yn y coed neu edmygu harddwch syllu ar y sêr.