
Mynydd Waun Fawr 13eg Medi 2024 © MWT/Tamasine Stretton
Gweledigaeth o Dirwedd Mynydd Waun Fawr
Byddem wrth ein bodd yn cael eich sylwadau, awgrymiadau ac adborth.
Mae YNM wedi derbyn arian er mwyn cynhyrchu gweledigaeth dirwedd ar gyfer ardal Mynydd Waun Fawr, a ddangosir ar y map isod. Mae'n ymddangos bod yr ardal hon yn fan sy'n gyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond mae hefyd yn ganolbwynt i gasgliad o brosiectau cynhyrchu egni arfaethedig, felly mae angen gweledigaeth strategol, gan gynnwys cynllun cyflawni ymarferol yn seiliedig ar y safle, a hynny ar fyrder. Er mwyn creu'r weledigaeth dirwedd hon, byddwn yn ymgymryd ag arolygon ac yn gweithio gyda pherchnogion tir, rheolwyr tir a phartïon eraill allai fod â diddordeb, er mwyn ceisio adnabod opsiynau a chyfleoedd priodol ar gyfer gwaith adfer ecolegol a gwella cysylltedd.


Llyn Newydd a Llyn Hir ar Fynydd Waun Fawr ger Llanerfyl, 10fed Awst 2024 © Tamasine Stretton
Dweud EICH dweud...
Sut ydych chi eisiau i’r dirwedd edrych? Hoffech chi ei weld rhagor o fywyd gwyllt? Pa ffyrdd sydd fwyaf cynaliadwy i wneud bywoliaeth yma yn eich barn chi?
Rhan hanfodol o greu’r weledigaeth strategol hon yw ymgysylltu â’r rhai sy'n gwybod orau. Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn eisiau cysylltu a chydweithio ag unrhyw un sy’n byw, gweithio neu’n mwynhau treulio amser yn ardal y prosiect.
Siaradwch ag aelod o’n tîm prosiect yn un o’n digwyddiadau ymgynghori dros dro.
- Dydd Mawrth, 18 Chwefror rhwng 10am a 12pm yn Neuadd Bentref Caersws
- Dydd Mawrth,18 Chwefror rhwng 2-4pm yng Nghanolfan Gymunedol Llanbrynmair
- Dydd Gwener, 21 Chwefror rhwng 12pm a 2pm yn Sefydliad Llanfair Caereinion
Yr hyn rydym eisoes yn ei wybod
Mae'r rhan anghysbell hon o sir Drefaldwyn yn parhau i fod ag ardaloedd helaeth o gynefinoedd sy'n cynnal ystod amrywiol o fywyd gwyllt. Ystyrir bod nifer o'r cynefinoedd sy'n hysbys o ardal y prosiect dan ddigon o fygythiad i warantu iddynt gael eu hamddiffyn gan y gyfraith. Mae Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn adnabod y canlynol fel cynefinoedd ucheldir a rhostir yng Nghymru y dylid eu blaenoriaethu er mwyn cynnal ac ehangu bioamrywiaeth:
- Rhostir yr Ucheldir
- Gorgors
- Sgydau dŵr ucheldirol, ffeniau a chorsydd
- Cynefinoedd creigiau mewndirol a mariandiroedd
Nid yn unig yw'r cynefinoedd hyn yn werthfawr oherwydd y bywyd gwyllt maent yn eu cynnal, ond maent hefyd yn cyflawni myrdd o wasanaethau ecosystem, yn fwyaf nodedig storio carbon yn yr eangderau o fawndir. Mae'r ardal hon hefyd yn ddalgylch lle ceir nifer o afonydd oddi mewn iddi, sy'n golygu bod gweithgaredd yr ymgymerir â hi o fewn yr ardal yn cael effaith lawer ehangach.
O'r data sydd eisoes gennym, rydym yn gwybod bod yr ardal hon yn cynnal amrywiaeth fawr o rywogaethau planhigion, anifeiliaid a ffwng, gyda nifer nid ansylweddol ohonynt mewn perygl o fod ar drengi.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Mae'r prosiect yn rhedeg hyd at fis Mawrth 2025. Byddwn yn:
- Cynnal arolwg o ardal y prosiect er mwyn adnabod mannau allweddol o ran bioamrywiaeth (cynefinoedd a rhywogaethau).
- Bydd yr arolygon hyn hefyd yn cael eu defnyddio i adnabod ardaloedd sy'n addas ar gyfer adferiad ecolegol, ac ardaloedd lle gall yr adferiad hwn sicrhau cysylltedd ecolegol unwaith eto.
- Byddwn yn gweithio gyda pherchnogion tir a rheolwyr tir i adnabod opsiynau a chyfleoedd y gellid eu cefnogi.
- Byddwn yn defnyddio'r cyfan o'r uchod er mwyn adnabod gweledigaeth dirwedd, gan roi cynllun cyflawni ymarferol yn seiliedig ar safle ar gyfer yr ardal brosiect gyfan.
Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Sut allwch chi helpu?
Mae ymgysylltu gyda'r gymuned leol yn allweddol i lwyddiant y prosiect hwn. P'un ai ydych chi'n breswylydd neu'n fusnes o fewn ardal y prosiect, neu os oes gennych chi wybodaeth am werth y fioamrywiaeth yno, hoffem glywed gennych. Cadwch lygad am ddigwyddiadau lleol, a chofiwch rannu gwybodaeth am y prosiect hwn yn eang.