30 Days Wild

Sign up for 30 Days Wild 2024

Bod yn WYLLT gydag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Her natur fwyaf y DU

30 Diwrnod Gwyllt yw her natur flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur lle rydyn ni’n gofyn i'r genedl wneud un peth 'gwyllt' y dydd bob dydd drwy gydol mis Mehefin.

Rydym ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r penblwydd 10fed o 30 Diwrnod Gwyllt gyda chi eleni!

Gall eich Gweithredoedd Gwyllt ar Hap dyddiol fod yn unrhyw beth rydych chi'n ei hoffi - casglu sbwriel, gwylio adar, sblasho mewn pyllau, dewiswch chi! Ond i'ch helpu ar eich taith, bydd yr Ymddiriedolaethau Natur hefyd yn darparu pecyn post neu ddigidol AM DDIM o nwyddau i chi, i ysbrydoli eich mis gwyllt - gan gynnwys pasbort gweithgarwch a siart wal i dracio eich cynnydd. Ochr yn ochr â'r holl fanteision hyn, profwyd yn wyddonol bod cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt yn gwneud i chi deimlo'n hapusach, yn iachach ac mewn mwy o gysylltiad â byd natur.

Blwyddyn diwethaf, cymerodd mwy na hanner miliwn o bobl ran, o deuluoedd a chyplau i athrawon, cartrefi gofal a gweithleoedd. Mae gwahoddiad i bawb!

Cofrestrwch heddiw a derbyniwch becyn AM DDIM yn y post, ynghyd â llawer o ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau. Mae adnoddau ar gyfer y cartref ac ysgolion hefyd ar gael yn Gymraeg. Dewiswch eich iaith wrth gofrestru.

Sign up now

Hoffwn becyn i:

Fy Nghartref (yn berffaith I unigolion a theuluoedd)

Fy Ysgol                Fy Nghartref Gofal             Fy Musnes

Sylwer: mae'r ffurflen cofrestru yn Saesneg ond gallwch ddewis derbyn pecynnau iaith Cymraeg

Ydych chi'n barod i fynd yn wyllt?

Eleni mae gan yr her nid yn unig themâu wythnosol, ond hefyd awgrymiadau gweithgaredd ar gyfer pob dydd, gan roi agwedd fwy ystyriol i natur a'i holl ogoniant.

Ni allwn aros i fynd ar y daith hon gyda chi.

Embrace the outdoors with The Wildlife Trusts' 30 Days Wild challenge! Imagine a month dedicated to exploring the wonders of nature, from the majestic red kites soaring above to the humble bees buzzing in our gardens.
Iolo Williams
Vice President of The Wildlife Trusts and Wildlife TV Presenter