Yn ôl adroddiad Cyflwr Byd Natur 2023 – y meincnod diweddaraf ar gyfer statws bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn y Deyrnas Unedig – y newid yn yr hinsawdd, ynghŷd â’r ffordd rydym yn rheoli tir ar gyfer amaethyddiaeth, sy’n cael yr effaith fwyaf dwys ar ein bywyd gwyllt.
Am y rheswm hwnnw, mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn (YNM) yn cefnogi’r symudiad oddi wrth danwydd ffosil tuag at ynni adnewyddadwy. Yn y Deyrnas Unedig, rydym yn wynebu heriau sylweddol wrth ystyried sut i gyflawni hynny mewn modd priodol ac yn gyflym. Mae angen cynyddu’r defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar fyrder, ac rydym o’r farn y gall ynni gwynt helpu i gyflawni anghenion ynni’r DU mewn modd cynaliadwy.
Fodd bynnag, ni ddylid lleoli ffermydd gwynt mewn ardaloedd ble gwyddom fod eu heffeithiau uniongyrchol ar fywyd gwyllt yn debygol o fod yn ddifrifol, neu ble byddent yn peri niwed sylweddol i gynefin a warchodir neu na ellir ei ail-greu. Dylid adeiladu ffermydd gwynt mewn modd sy’n creu cyn lleied â phosib o niwed i’r amgylchedd cyfagos, hyd yn oed pan fydd hynny’n cynyddu cost y gwaith adeiladu.
Y fferm wynt iawn yn y man iawn
Mae ffermydd gwynt sydd wedi’u lleoli’n wael, a’r seilwaith sy’n gysylltiedig â nhw, yn creu niwed ofnadwy i’r amgylchedd lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a thu hwnt i hynny. Y broblem fawr ydy colli, difrodi a darnio cynefinoedd - yn y bôn, yn ogystal â cholli cynefin i fywyd gwyllt sydd eisoes yn brin, a hynny yn y mannau y mae ei angen fwyaf arnom, mae’r cynefin sy’n cael ei adael mewn cyflwr gwael a heb ei gysylltu’n iawn bellach â gweddill y dirwedd: rhywbeth sydd, fel y gwyddom, yn hollbwysig i natur oll.
Mawnogydd gwerthfawr
Yn ychwanegol at hynny, mae llawer o’r tir sy’n cynnig y cyfleoedd gorau ar gyfer gwynt hefyd yn tueddu i fod yn dir sy’n gyfoethog o ran cynefinoedd mawn. Mae ffermydd gwynt yn cael eu hadeiladu er mwyn lleihau allyriadau carbon, eto i gyd mae mawnogydd yn rhannau o’r tir sy’n gynefinoedd o bwysigrwydd mawr yn fyd-eang ar gyfer storio llawer iawn o garbon yn hirdymor. Drwy adeiladu ar fawndir, rydym yn rhyddhau’r storfa garbon hon fel allyriadau carbon i’r atmosffer. Ond yn bwysicaf oll, caiff mawnog ei ffurfio dros sawl mileniwm - ac unwaith y bydd wedi mynd, bydd wedi mynd am byth.
Fel y dywedir ym Mhennod 6 Polisi Cynllunio Cymru: “Mae pridd mawnog yn arbennig o fregus ac os caiff ei niweidio, peryglir cydnerthedd yr ecosystemau y mae’n eu cynnal. Dim ond 3-4% o Gymru sydd o dan fawnogydd ond er hynny, maent yn storio o gwmpas 20-25% o’r holl garbon pridd. Os nodir bod mawnog yn rhan o gynnig ar gyfer datblygiad, dylid rhoi pwys mawr ar ei amddiffyn oherwydd pwysigrwydd arbennig ei gyfraniad at gynnal adnoddau naturiol cenedlaethol fel carbon pridd, bioamrywiaeth a rheoli llifogydd ac oni cheir ystyriaethau perthnasol arwyddocaol eraill sy’n awgrymu fel arall, bydd yn rhaid gwrthod caniatâd.”
Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn dweud y canlynol ynglŷn â chynefinoedd, gan gynnwys mawnogydd a gorgorsydd: “Y safleoedd hyn yw calon y rhwydweithiau ecolegol cydnerth a rhaid diogelu, cynnal a gwella eu rôl a’r gwasanaethau ecosystem y maent yn eu darparu, a’u diogelu rhag datblygiad. Byddai’n ddigwyddiad cwbl eithriadol pe gellid cyfiawnhau datblygiad o dan yr amgylchiadau hyn.”
darllenwch ein datganiad sefyllfa fferm wynt llawn yma
Yr adar a'r ystlumod…
Mae dinistrio cynefin yn amlwg yn effeithio ar yr holl rywogaethau bywyd gwyllt sy’n dibynnu arno, ond yn ychwanegol at hynny, mae tyrbinau gwynt yn fygythiad penodol i adar ac ystlumod. Mae datblygiadau gwynt yn tueddu i gael eu lleoli mewn ardaloedd o ucheldir lle ceir ceryntau gwynt cryf a photensial da felly ar gyfer cynhyrchu ynni. Mae adar – yn enwedig adar ysglyfaethus fel y Barcud Coch – yn defnyddio’r ceryntau hyn fel ‘priffyrdd’, sy’n dod â nhw i gysylltiad â’r tyrbinau gan eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol. Yn ychwanegol at hynny, mae ffermydd gwynt sydd wedi’i lleoli’n wael yn amharu ar lwybrau mudo, yn ogystal â dinistrio cynefinoedd nythu a bwydo. Dysgwch fwy yma gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain
Yn ogystal, bu pryder ymhlith cadwraethwyr natur ers cryn amser ynglŷn â’r ffordd y gallai ffermydd gwynt sydd wedi’i lleoli’n wael fod yn dadleoli rhai rhywogaethau adar sy’n bridio yn yr ucheldir, yn arbennig y Gylfinir. Mae hon yn rhywogaeth sydd dan fygythiad ac mae ei phoblogaethau, sydd eisoes yn dameidiog iawn, wedi gweld gostyngiadau difrifol. Fodd bynnag, mae ynni gwynt, ynghyd â ffurfiau eraill ar ynni adnewyddadwy, yn dal yn ffynhonnell gymharol newydd ar gyfer cynhyrchu ynni, ac mae angen rhagor o astudiaethau cadarn er mwyn dod i ddeall y cysylltiad hwn.
Yn yr un modd, ceir tystiolaeth gynyddol o effaith tyrbinau gwynt ar ystlumod, gyda data o Ewrop a’r Unol Daleithiau o ddechrau’r 2000au a thystiolaeth erbyn hyn o’r Deyrnas Unedig. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod: "Gall effeithiau uniongyrchol ffermydd gwynt gynnwys gwrthdrawiadau a barodrawma (niwed i feinweoedd oherwydd y newidiadau i wasgedd aer o amgylch tyrbinau); gall yr effeithiau anuniongyrchol gynnwys colli cynefin (mannau clwydo, llwybrau cymudo ac ardaloedd bwydo.”
Cymryd Rhan
Os ydych chi’n awyddus i wneud cyfraniad at sicrhau y caiff datblygiadau ffermydd gwynt eu lleoli’n ofalus, gan ymyrryd cyn lleied â phosib ar fywyd gwyllt prin a’u cynefinoedd, adroddwch am y bywyd gwyllt a welwch. Po fwyaf o ddata a geir ynglŷn â ble mae ein planhigion, ein hanifeiliaid a’n ffyngau, po gryfaf fydd y ddadl dros addasu, symud neu hyd yn oed atal datblygiadau amhriodol. Rhoddir llawer o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hynny yma.
Byd natur yn cael ei beryglu gan ffermydd gwynt sydd wedi’u camleoli
Dyma rai yn unig o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd gwerthfawr y gall fod effaith arnynt os caiff y fferm wynt anghywir ei lleoli yn y man anghywir
I gael rhagor o wybodaeth
Dilynwch Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod mwy am y datblygiadau yn y man, neu anfonwch neges atom yn news@montwt.co.uk os ydych chi’n awyddus i dderbyn diweddariadau ynglŷn â hyn a newyddion a digwyddiadau eraill drwy e-bost.
Gallwch chi ddefnyddio'r dolenni isod hefyd i gysylltu â’r AS lleol - i ddweud wrthyn nhw pam rydych chi’n bryderus ynglŷn â’r effaith y gallai’r ffermydd gwynt hyn ei chael ar fywyd gwyllt - neu anfonwch lythyr at olygydd eich papur newydd neu gylchgrawn lleol.