Mae sefydliadau bywyd gwyllt blaenllaw, gan gynnwys Ymddiriedolaethau Natur Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad nodedig Cyflwr Byd Natur 2023.
Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod byd natur yn parhau i ddirywio ar raddfa frawychus ar draws y DU, sydd eisoes yn un o’r gwledydd sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf o ran byd natur yn y byd.
• Mae 18% (un o bob chwech) o'n rhywogaethau ni mewn perygl o ddiflannu o Gymru, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid fel Tegeirian y Fign Galchog, Llygoden Bengron y Dŵr a Madfall y Tywod.
• Mae toreth o rywogaethau tir a dŵr croyw wedi gostwng 20% ar gyfartaledd ledled Cymru ers 1994.
• O blith bron i 3,900 o rywogaethau a aseswyd, mae mwy na 2% eisoes wedi wynebu difodiant yng Nghymru.
Darllen ein datganiad i’r wasg
Darllen nawr
Darllen yr adroddiad